Rhun ap Iorweth Plaid Cymru: Ni all Cymru fynd ‘yn ôl’ ar ieuenctid traws
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi rhoi ei gefnogaeth ddiwyro y tu ôl i curch ieuenctid traws i ofal iechyd sy’n cadarnhau rhywedd, gan ddweud na all Cymru “gymryd cam yn ôl” ar “hawl pobl i ddewis”.
Wrth siarad â PinkNews yng nghanol Llundain ddydd Mercher (12 Mehefin), fe wnaeth ap Iorwerth trafod amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â phleidleiswyr LGBTQ+ yn y wlad ddatganoledig, gan gynnwys seibio atalwyr glasoed i traws ieuenctid, y safle rhyngwladol y DU ar hawliau LHDTC+ ac annibyniaeth Cymru a allai effeithio polisïau sy’n canolbwyntio ar pobol rhyfed.
Plaid Cymru, sy’n cyfieithu i ‘Party of Wales’ yn Saesneg, yw plaid Cymru o blaid annibyniaeth.
Ers etholiad cyffredinol 2019, mae gan y blaid dri AS yn Nhŷ’r Cyffredin ond mae ganddi fwy o amlygrwydd yn y Senedd, senedd Cymru, lle enillodd 12 sedd.
Pam ddylai pobl LHDTC+ bleidleisio i chi?
Wel, mi fysai’n hoffi i bobl LHDTC+ bleidleisio i Blaid Cymru oherwydd ein hanes o gefnogi aelodau o’r gymuned honno. Mae gennym hanes balch iawn o lunio polisïau blaengar sy’n seiliedig ar barch, sy’n seiliedig ar gefnogi bobol a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud yn eu bywydau.
Rwy’n meddwl bod cymaint o faterion mewn gwleidyddiaeth o pryder mawr i mi [gan gynwys] diogelwch aelodau’r gymuned LHDTC + oherwydd, y rhyfeloedd diwylliant sydd wedi’u cynddeiriogi gan yr wleidyddol dde.
Mae Plaid Cymru yn lle diogel ac mae gennym ni eich cefn.
Beth fyddech chi’n ei wneud i bobl LHDTC+ yng Nghymru petaech chi’n cael eich ethol?
Rwy’n meddwl y gallwch siarad o ran polisïau, gallwch hefyd siarad o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni fel plaid.
Rydyn ni’n blaid lle mae goddefgarwch yn egwyddor greiddiol iawn i bopeth rydyn ni’n ei wneud a byddwn i’n gobeithio drwy’r holl bolisïau rydyn ni’n eu rhoi at ei gilydd yn yr etholiad hwn […] y byddai pobl yn gweld y darn aur hwnnw o oddefgarwch, parch a’r cefnogi o bobl, llawer ohonynt – yn enwedig yn y gymuned draws er enghraifft – sydd yn ffindio eu hunain yn ddioddefwyr polisïau y lywodraeth y DU. Yn benodol, mae hynny’n dangos diffyg parch sylfaenol tuag atynt.
Dyna’r hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni yn ei gyfanrwydd i Gymru.
Mae eich plaid yn ceisio annibyniaeth i Gymru, beth fyddai annibyniaeth yn ei olygu i bobl LHDTC+ yng Nghymru?
Y syniad o allu adeiladu’r math o gymuned sy’n adlewyrchu’r hyn rwy’n credu yw ein gwerthoedd fel cenedl.
Rydym yn genedl lle credaf fod cydraddoldeb yn bwysig. Rydym yn genedl, rwy’n credu, lle mae cymuned yn dal yn bwysig. A phan fyddwn yn wynebu Teyrnas Unedig wedi ei torri, mae’r sialensau o hyn sydd ein hatal – rwy’n credu – rhag gallu adeiladu’r math o gymdeithas da ni’n hangen, mae hynnu’n rhwystredig i mi.
Felly fe glywch fi yn yr etholiad hwn yn sôn am degwch a siarad am uchelgais, ac mae uchelgais ynddo’i hun gallu gyfeirio at opsiwn i adeiladu cymdeithas fwy ffyniannus, ond yn gwbl yn ei galon, i mi, yw’r uchelgais o adeiladu cymdeithas fwy goddefgar a gyfartal.
Byddai’r rheini – rwy’n hyderus – yn yr galon y Gymru newydd, annibynnol hon y credaf y gallem oll anelu ati, lle bynnag yr ydym ar y daith o ran credu ei bod o fewn cyrraedd.
Mae’r Ceidwadwyr wedi addo ailysgrifennu’r Ddeddf Cydraddoldeb i ddiffinio’n bendant bod ‘rhyw’ yn golygu ‘rhyw biolegol’ – beth yw safiad Plaid Cymru ar hyn?
Mae hwn yn fater sy’n esblygu mewn sawl ffordd, a’r pryder gyda’r hyn yr ydym yn ei glywed gan lywodraeth y DU yn ddiweddar yw ein bod yn cymryd camau yn ôl.
Mae Plaid Cymru eisiau inni ddal i symud ymlaen.
Ar faterion traws, rydym yn sôn am, faes trafod sy’n newydd i lawer o bobl ond fel arweinwyr gwleidyddol, mae’n rhaid inni fod yn feiddgar i fod yn barod bob amser i sefyll dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo.
Rydym yn blaid sy’n parchu dewisiadau unigol. Rydym yn blaid sydd am hyrwyddo goddefgarwch, bob amser. Mae e’n fynnu i arweinwyr gwleidyddol, drwy ddeddfwriaeth, drwy’r hyn a ddywedwn, i ddangos ein bod ni’n awyddus i ddod â phobl ar daith, ac nid deddfwriaeth atchweliadol yw’r hyn y mae angen inni ei wneud nawr os ydym am anfon neges i bobl y dylent gallu teimlo’n ddiogel mewn cymdeithas. Rwy’n teimlo mai’r hyn yr ydym yn ei weld o ran yr iaith a’r diwylliant hwn roedd gan yr lywodraeth y DU yn benodol yw creu amgylchedd anniogel; i’r gwrthwyneb i’r hyn y mae angen inni ei wneud.
Nod Cynllun LHDTC+ Cymru, a ryddhawyd yn 2023, yw gwella profiadau pobl LHDRC+ yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae GIG Cymru wedi seibio i atalwyr glasoed i ieuenctid traws yn dilyn Adroddiad Cass – sy’n ymddangos yn wrthgynhyrchiol – sut y byddai Plaid Cymru yn mynd i’r afael â’r mater hwn?
Mae hwn wedi dod yn faes mwy cymhleth fyth. Cawsom Adolygiad Cass a aeth â’r ddadl i gyfeiriad newydd ac, wrth gwrs, bu llawer o feirniadaeth yn llawer o gyfeiriadau.
Be dwi isio wneud, dros bobeth arall, yw cefnogi pobl ifanc.
Fel gymaint o’r ddadl ar draws, mewn gwirionedd mae’n rhaid inni gydnabod bod gan bobl bryderon. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod hyn yn wirioneddol a’n bod ni ar daith.
Ond yn y pen draw, mae’n rhaid iddo fod yn ymwneud â chefnogi ein pobl ifanc bob amser i wneud penderfyniadau trwy’r gwasanaeth iechyd sy’n ddiogel […] a dyna pam yr ydym isio [gyflwyno] prosesau ar gyfer sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael i bobl ifanc.
Oherwydd unwaith eto, yr hyn na allwn ei wneud yw cymryd cam yn ôl o fod allu dangos ein bod yn parchu hawl pobl i ddewis.
Yr amser aros ar gyfartaledd am apwyntiad gyda Gwasanaeth Rhyw Cymru yw 17 mis – beth fyddai Plaid Cymru yn ei wneud i ddod â’r aros hwn i lawr?
Mae’n bryder gwirioneddol pan welwn aros am wasanaethau rhyw. Mae Plaid Cymru wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r gwasanaethau hynny gael adnoddau priodol.
Mae blynyddoedd yr arddegau’n mynd heibio’n gyflym iawn, iawn, felly ni allwn ganiatáu i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n findio’r amser hynnu yn eu bywydau yn anodd iawn, iawn i aros am y cymorth y dylent allu ei ddisgwyl gan y llywodraeth.
Sut byddai Plaid Cymru yn sicrhau bod addysg rhyw yn parhau i fod yn gwbl gynhwysol LHDTC+ yng nghanol codi bwganod am gynnwys y cwricwlwm presennol?
Rwy’n teimlo’n gryf iawn bod yn rhaid i ni drwy gydol y system ysgolion gael mesurau a phrosesau cadarn iawn sy’n gadael i bobl ifanc allu dysgu ac archwilio am y cysyniad o berthnasoedd.
Ac oes, wrth gwrs, mae yna bobl a gododd bryderon am bethau amhriodol yn cael eu cyflwyno i blant ifanc iawn. Nid yw e am dan hynny.
Rhaid i bopeth fod yn briodol i’r oedran bob tro. Bydd yr trafodiaeth am dan wahanol bethau, a cael eu harwain yn wahanol, rhwng phlentyn chwech oed â phlentyn 16 oed ac mae hynny’n bwysig iawn, iawn.
I mi, wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd mawr eang a chaniatáu iddynt ddysgu ac archwilio’r cysyniad o berthnasoedd diogel, mae perthnasoedd sy’n seiliedig ar barch yn rhywbeth pwysig iawn, iawn.
Dywedaf hynny fel tad, yn ogystal â gwleidydd.
Mae’r DU gyfan wedi disgyn lawr yr Map Enfys Ewrop ILGA ar gydraddoldeb LHDTC+ yn y blynyddoedd diwethaf o 1af yn 2015 i 13eg yn 2024, beth fyddwch chi’n ei wneud i’n dychwelyd i’r safle uchaf?
Mae disgyn y DU [yn] yr Map Enfys yn rhywbeth a ddylai fod o bryder i ni i gyd, nid yn unig i bobl yn y gymuned LHDT, ond i bob un ohonom. Mae’n un o’r mesurau hynny o ba mor oddefgar ydym ni fel cymdeithas ac dwi isio inni fod yn gymdeithas oddefgar.
Mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth wleidyddol, bob amser. Daw hynny drwodd efallai mewn rhai polisïau penodol ond mae hefyd mewn tôn, pa mor ddiogel y mae pobl yn teimlo i fynegi eu hunain, pa mor ddiogel y maent yn teimlo o ran datblygu polisi. Mae hynny’n hanfodol bwysig i ni.